top of page

LOCAL VICINITY / YR ARDAL LEOL

The Lleyn Peninsula is  a wildly beautiful area that wraps you in a strong embrace. Llŷn’s mix of culture and heritage, traditional farmsteads and little ports, beaches, bays and sea-cliffs is quite unlike anything else you’ll find in Wales – or elsewhere, for that matter. Little wonder, then, that the coast is a protected ‘Area of Outstanding Natural Beauty’. Walk it by following the Wales Coast Path.

Llithfaen

Village set in a landscape full of interest. On Yr Eifl mountains there’s Tre’r Ceiri, an astonishingly well-preserved prehistoric village occupied until about 2,000 years ago. Nant Gwrtheyrn, the Welsh Language and Heritage Centre, is nearby.

Nefyn

Popular north coast seaside village with harbour, a Maritime Museum and graceful crescent of sand leading to picturesque Porthdinllaen and a golf course.

 

Porthdinllaen

How perfect can you get? Not much more than Porthdinllaen, a much-photographed coastal hamlet with quaint houses and waterfront inn set above a beautiful half-moon of sands. Village and beach are owned by the National Trust - access on foot only. 

 

Pwllheli

Llŷn’s ‘capital’ fills many roles - seaside resort with fine blue banner beach, busy market town with art galleries and very popular sailing and watersports centre with one of the best modern marinas in the UK. See the wildlife – seals, seabirds and dolphins – on coastal cruises. Excellent leisure centre to keep the kids entertained, along with activity-packed Glasfryn Parc.

 

Llanbedrog

Charming little seaside village with superb beach and possibly the most famous – certainly the most photogenic – line of beach huts in Wales. Home to Oriel Plas Glyn-y-Weddw, a leading arts centre and gallery. Well located for walking. Also in the area is a shooting school, for beginners and seasoned shooters.

Abersoch

Popular – and very fashionable – seaside resort and sailing/watersports centre, with fine beaches and sheltered harbour. Busy bistro life, plus a good choice of accommodation and attractions including pony trekking, boat trips and crafts centre.

 

Aberdaron

Land’s end at its most idyllic. This fishing village was the last stop for pilgrims on the way to Ynys Enlli, the ‘Isle of 20,000 Saints’ otherwise known as Bardsey Island, now a National Nature Reserve renowned internationally for its birdlife. Celebrated poet RS Thomas lived in a cottage within the beautiful grounds of Plas yn Rhiw, a small National Trust manor house. Call into the National Trust’s new interpretation centre, Porth y Swnt, for an insight into Llŷn’s special landscapes, seascapes and rich cultural heritage. And be prepared to get blown away by the awesome coastal views from Mynydd Mawr headland.

 

 

 

Mae Llŷn yn ddigamsyniol mewn amryw o ffyrdd.  Mae ganddo hefyd hunaniaeth unigryw fel un o gadarnleoedd hanes a threftadaeth Geltaidd, y diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg. Gwarchodir Llŷn fel ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ oherwydd grymuster ei harfordiroedd arbennig sy’n cynnwys cildraethau, pentiroedd, traethau a baeau â bywyd gwyllt cyfoethog. Maent oll yn gydgysylltiol drwy gyfrwng Llwybr Arfordir Cymru.

 

Llithfaen

Pentref wedi’i leoli mewn tirwedd hynod ddiddorol. Ceir Tre’r Ceiri ar fynyddoedd yr Eifl, pentref cynhanesyddol mewn cyflwr da rhyfeddol â thrigolion ynddo oddeutu 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Nant Gwrtheyrn, y Ganolfan Iaith a Threftadaeth, gerllaw.

Nefyn

Pentref glan môr poblogaidd ar yr arfordir gogleddol gyda harbwr, Amgueddfa Forwrol  a chilgant tywodlyd gosgeiddig sy’n arwain at brydferthwch Porthdinllaen a chwrs golff.

Porthdinllaen

Ni all unman fod yn fwy perffaith na Phorthdinllaen. Pentrefan arfordirol lle ceir sawl ffotograff ohono, gyda thai a thafarn hen ffasiwn ar lan y dŵr a saif uwchlaw’r hanner lleuad o draeth prydferth. Mae’r pentref a’r traeth dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – cewch fynediad ar droed yn unig. 

Pwllheli

Mae gan ‘brifddinas’ Llŷn sawl rôl – mae’n gyrchfan glan môr baner las ag iddi draeth coeth, ac yn dref farchnad brysur ag orielau celf a chanolfan hwylio a chwaraeon dŵr hynod boblogaidd gydag un o’r marinâu modern gorau yn y DU. Cewch weld y bywyd gwyllt – morloi, adar y môr a dolffiniaid – ar fordeithiau arfordirol. Canolfan hamdden ragorol i gadw’r plant yn ddiwyd ynghyd â Pharc Glasfryn sy’n llawn gweithgareddau. 

Llanbedrog

Pentref glan môr hudolus gyda thraeth godidog a’r rhesiad o gytiau glan môr enwocaf o bosib – a’r mwyaf golygfaol, yn bendant – yng Nghymru. Cartref Oriel Plas Glyn-y-Weddw, canolfan gelfyddydau ac oriel flaenllaw. Mewn lleoliad da ar gyfer teithiau cerdded. Ceir hefyd ysgol saethu, i'r profiadol a cychwynwyr!

 

Abersoch

Lleoliad glan y môr a chanolfan hwylio/chwaraeon dŵr hynod boblogaidd – a ffasiynol – gyda thraethau a harbwr cysgodol. Bywyd bistro prysur ynghyd â dewis da o lety ac atyniadau, sy’n cynnwys merlota, tripiau cwch a chanolfan grefftau.

 

Aberdaron

Pen draw’r byd ar ei fwyaf delfrydol. Bu’r pentref pysgota hwn yn ddiwedd teithiau pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli, ac mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol ryngwladol enwog oherwydd yr adar sydd yno. Roedd RS Thomas, y bardd enwog, yn byw mewn bwthyn o fewn tiroedd hyfryd Plas yn Rhiw, maenordy bychan sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Byddwch yn barod i gael eich swyno gan olygfeydd arfordirol syfrdanol o bentir Mynydd Mawr. Hefyd o dan rheolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y mae Porth y Swnt, canolfan ddehongli newydd. Draw yn Felin Uchaf mae canolfan addysg i ymchwilio i ffordd o fyw a chydweithio creadigol mewn partneriaeth a’n gilydd a’n amgylchedd.

 

 

bottom of page